P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig - Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor – 17.09.18

 

Dyma beth ddwedais o flaen y senedd yn caerdydd wrth gyflwyno yr deiseb I rhun ap iorweth.

 

Dw i yma heddiw i gyflwyno’r ddeiseb hon ar ran Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gymuned Bodffordd. 

 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi penderfynu cau Ysgol Gymuned Bodffordd, yn groes i ddymuniad y rhieni, ac yn groes i farn y bobl leol. Mae’r ysgol yn llawn gyda dros wyth deg o blant. Mae hi’n ysgol deuluol, gartrefol a gofalgar, ac mae ymdeimlad cryf o berthyn iddi. Bwriad y cyngor ydy ymuno’r ysgol wledig hon i greu ysgol drefol o dros dri chant a hanner o blant. 

 

Ond ar ôl dros ddwy flynedd o ymgynghori a chyfarfodydd gyda’r cyngor, ma na dal gwestiynau heb eu hateb. Beth fydd yn digwydd i’r Ganolfan, sy’n gartref i lawer o gymdeithasau lleol? Beth fydd yn digwydd i’r Cylch Meithrin rhagorol sy’n bwydo’r ysgol? Pam nad ydy’r Cyngor wedi ystyried ffederaleiddio gydag ysgolion eraill, neu roi estyniad ac addasu’r ysgol bresennol?

 

Da ni’n derbyn fod yr ysgol drefol angen adeilad newydd gan eu bod yn llawn. Da ni’n cytuno’n llwyr efo symud efo’r oes. Da ni’n hefyd am sicrhau’r addysg orau i’n plant. Ond does dim rhaid cau ysgol wledig ac anghofio am y gorffennol. Mae gan gymuned Bodffordd hanes a diwylliant cyfoethog, a thrwy gau yr ysgol, bydd y pentref yn colli ei galon. A beth fydd effaith hyn ar yr Iaith Gymraeg yn y pentref?

 

Mae angen cyfuno’r hen a’r newydd drwy foderneiddio beth sydd gan bob ysgol wledig yn barod, a ffederaleiddio gydag ysgolion eraill er mwyn cynnal a chodi safonau. Dydy Cyngor Sir Ynys Môn ddim wedi ystyried yr holl bosibiliadau, ac mae hyn yn mynd yn groes i ysbryd Côd newydd Kirsty Williams. Dyna pam rydan ni’n cyflwyno’r ddeiseb yma heddiw..

 

Diolch yn fawr 



Llinos roberts